Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 18:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Ymddangosodd yr ARGLWYDD i Abraham wrth dderw Mamre, pan oedd yn eistedd wrth ddrws y babell yng ngwres y dydd.

2. Cododd ei olwg a gwelodd dri gŵr yn sefyll o'i flaen. Pan welodd hwy, rhedodd o ddrws y babell i'w cyfarfod, ac ymgrymu i'r llawr,

3. a dweud, “F'arglwydd, os cefais ffafr yn d'olwg, paid â mynd heibio i'th was.

4. Dyger ychydig ddŵr, a golchwch eich traed a gorffwyso dan y goeden,

5. a dof finnau â thamaid o fara i'ch cynnal, ac wedyn cewch fynd ymaith; dyna pam yr ydych wedi dod at eich gwas.” Ac meddant, “Gwna fel y dywedaist.”

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 18