Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 16:9-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. A dywedodd angel yr ARGLWYDD wrthi, “Dychwel at dy feistres, ac ymostwng iddi.”

10. Dywedodd angel yr ARGLWYDD hefyd wrthi, “Amlhaf dy ddisgynyddion yn ddirfawr, a byddant yn rhy luosog i'w rhifo.”

11. A dywedodd angel yr ARGLWYDD wrthi:“Yr wyt yn feichiog, ac fe esgori ar fab;byddi'n ei alw yn Ismael,oherwydd clywodd yr ARGLWYDD am dy gystudd.

12. Asyn gwyllt o ddyn a fydd,a'i law yn erbyn pawb, a llaw pawb yn ei erbyn ef,un yn byw'n groes i'w holl gymrodyr.”

13. A galwodd hi enw'r ARGLWYDD oedd yn llefaru wrthi yn “Tydi yw El-roi”, oherwydd dywedodd, “A wyf yn wir wedi gweld Duw, a byw ar ôl ei weld?”.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 16