5. Yna dywedodd Sarai wrth Abram, “Bydded fy ngham arnat ti! Rhoddais fy morwyn yn dy fynwes, a phan ddeallodd ei bod yn feichiog, euthum yn ddibris yn ei golwg. Bydded i'r ARGLWYDD farnu rhyngom.”
6. Dywedodd Abram wrth Sarai, “Edrych, y mae dy forwyn dan dy ofal; gwna iddi fel y gweli'n dda.” Yna bu Sarai yn gas wrthi, nes iddi ffoi oddi wrthi.
7. Daeth angel yr ARGLWYDD o hyd i Hagar wrth ffynnon ddŵr yn y diffeithwch, wrth y ffynnon sydd ar y ffordd i Sur.
8. A dywedodd wrthi, “Hagar forwyn Sarai, o ble y daethost, ac i ble'r wyt yn mynd?” Dywedodd hithau, “Ffoi yr wyf oddi wrth fy meistres Sarai.”