11. A phan fyddai adar yn disgyn ar y cyrff byddai Abram yn eu hel i ffwrdd.
12. Fel yr oedd yr haul yn machlud, syrthiodd trymgwsg ar Abram; a dyna ddychryn a thywyllwch dudew yn dod arno.
13. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Abram, “Deall di i sicrwydd y bydd dy ddisgynyddion yn ddieithriaid mewn gwlad nad yw'n eiddo iddynt, ac yn gaethweision, ac fe'u cystuddir am bedwar can mlynedd;
14. ond dof â barn ar y genedl y byddant yn ei gwasanaethu, ac wedi hynny dônt allan gyda meddiannau lawer.
15. Ond byddi di dy hun farw mewn tangnefedd, ac fe'th gleddir mewn oedran teg.
16. A dychwelant hwy yma yn y bedwaredd genhedlaeth; oherwydd ni chwblheir hyd hynny ddrygioni'r Amoriaid.”
17. Yna wedi i'r haul fachlud, ac iddi dywyllu, ymddangosodd ffwrn yn mygu a ffagl fflamllyd yn symud rhwng y darnau hynny.
18. Y dydd hwnnw, gwnaeth yr ARGLWYDD gyfamod ag Abram a dweud:“I'th ddisgynyddion di y rhoddaf y wlad hon,o afon yr Aifft hyd yr afon fawr, afon Ewffrates.”
19. Dyna wlad y Ceneaid, y Cenesiaid, y Cadmoniaid,
20. yr Hethiaid, y Peresiaid, y Reffaimiaid,
21. yr Amoriaid, y Canaaneaid, y Girgasiaid, a'r Jebusiaid.