Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 14:5-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Ac yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg daeth Cedorlaomer a'r brenhinoedd oedd gydag ef a tharo'r Reffaimiaid yn Asteroth-carnaim, y Susiaid yn Ham, yr Emiaid yn Safe-ciriathaim,

6. yr Horiaid ym mynydd-dir Seir, hyd El-paran ar fin y diffeithwch.

7. Yna troesant a dod i En-mispat, sef Cades, a tharo holl dir yr Amaleciaid, a hefyd yr Amoriaid, a oedd yn trigo yn Hasason-Tamar.

8. Yna aeth brenin Sodom, brenin Gomorra, brenin Adma, brenin Seboim a brenin Bela, sef Soar, i ryfela yn nyffryn Sidim yn erbyn

9. Cedorlaomer brenin Elam, Tidal brenin Goim, Amraffel brenin Sinar ac Arioch brenin Elasar, pedwar brenin yn erbyn pump.

10. Yr oedd dyffryn Sidim yn llawn o byllau pyg; ac wrth i frenhinoedd Sodom a Gomorra ffoi, syrthiasant i mewn iddynt, ond ffodd y lleill i'r mynydd.

11. Yna cipiodd y pedwar holl eiddo Sodom a Gomorra, a'u holl luniaeth, a mynd ymaith.

12. Cymerasant hefyd Lot, mab i frawd Abram, a oedd yn byw yn Sodom, a'i eiddo, ac aethant ymaith.

13. A daeth un oedd wedi dianc, a dweud am hyn wrth Abram yr Hebread, a oedd yn byw wrth dderw Mamre yr Amoriad, brawd Escol ac Aner, rhai oedd mewn cynghrair ag Abram.

14. Pan glywodd Abram am gaethgludo'i frawd, casglodd ei wŷr arfog oedd yn perthyn i'w dŷ, tri chant a deunaw ohonynt, ac ymlidiodd hyd Dan.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 14