Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 14:19-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. a bendithiodd ef a dweud:“Bendigedig fyddo Abram gan y Duw Goruchaf,perchen nef a daear;

20. a bendigedig fyddo'r Duw Goruchaf,a roes dy elynion yn dy law.”A rhoddodd Abram iddo ddegwm o'r cwbl.

21. Dywedodd brenin Sodom wrth Abram, “Rho'r bobl i mi, a chymer di'r eiddo.”

22. Ond dywedodd Abram wrth frenin Sodom, “Tyngais i'r ARGLWYDD Dduw Goruchaf, perchen nef a daear,

23. na chymerwn nac edau na charrai esgid, na dim oll sy'n eiddo i ti, rhag i ti ddweud, ‘Yr wyf wedi cyfoethogi Abram.’

24. Ni chymeraf ond yr hyn a fwytaodd y llanciau, a chyfran y gwŷr a ddaeth gyda mi, sef Aner, Escol a Mamre; cânt hwy gymryd eu cyfran.”

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 14