Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 10:15-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Canaan oedd tad Sidon, ei gyntafanedig, a Heth;

16. hefyd y Jebusiaid, Amoriaid, Girgasiaid,

17. Hefiaid, Arciaid, Siniaid,

18. Arfadiaid, Semariaid, a Hamathiaid. Wedi hynny gwasgarwyd teuluoedd y Canaaneaid,

19. ac estyn eu ffin o Sidon i gyfeiriad Gerar, hyd Gasa; ac i gyfeiriad Sodom, Gomorra, Adma, a Seboim, hyd Lesa.

20. Dyna feibion Cham, yn ôl eu llwythau a'u hieithoedd, ynghyd â'u gwledydd a'u cenhedloedd.

21. I Sem hefyd, tad holl feibion Heber, brawd hynaf Jaffeth, ganwyd plant.

22. Meibion Sem oedd Elam, Assur, Arffaxad, Lud, ac Aram.

23. Meibion Aram: Us, Hul, Gether, a Mas.

24. Arffaxad oedd tad Sela, a Sela oedd tad Heber.

25. I Heber ganwyd dau fab; enw un oedd Peleg, oherwydd yn ei ddyddiau ef rhannwyd y ddaear, a Joctan oedd enw ei frawd.

26. Joctan oedd tad Almodad, Saleff, Hasar-mafeth, Jera,

27. Hadoram, Usal, Dicla,

28. Obal, Abimael, Seba,

29. Offir, Hafila, a Jobab; yr oeddent oll yn feibion Joctan.

30. Yr oedd eu tir yn ymestyn o Mesa i gyfeiriad Seffar, i fynydd-dir y dwyrain.

31. Dyna feibion Sem, yn ôl eu llwythau a'u hieithoedd, ynghyd â'u gwledydd a'u cenhedloedd.

32. Dyma lwythau meibion Noa, yn ôl eu hachau, yn eu cenhedloedd; ac o'r rhain yr ymrannodd y cenhedloedd dros y ddaear wedi'r dilyw.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 10