Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 7:21-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Bu farw'r pysgod oedd ynddi, ac yr oedd yr afon yn drewi cymaint fel na allai'r Eifftiaid yfed dŵr ohoni; ac yr oedd gwaed trwy holl wlad yr Aifft.

22. Ond yr oedd swynwyr yr Aifft hefyd yn medru gwneud hyn trwy eu gallu cyfrin; felly caledodd calon Pharo, ac ni fynnai wrando ar Moses ac Aaron, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud.

23. Troes Pharo a mynd i mewn i'w dŷ, heb ystyried y peth ymhellach.

24. Am nad oeddent yn medru yfed y dŵr o'r Neil, bu'r holl Eifftiaid yn cloddio gerllaw'r afon am ddŵr i'w yfed.

25. Parhaodd hyn am saith diwrnod wedi i'r ARGLWYDD daro'r Neil.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 7