Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 5:4-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Ond dywedodd brenin yr Aifft wrthynt, “Moses ac Aaron, pam yr ydych yn denu'r bobl oddi wrth eu gwaith? Ewch yn ôl at eich gorchwylion.”

5. Dywedodd Pharo hefyd, “Edrychwch, y maent erbyn hyn yn fwy niferus na thrigolion y wlad, ac yr ydych chwi am atal eu gorchwylion!”

6. Y diwrnod hwnnw, rhoddodd Pharo orchymyn i feistri gwaith y bobl a'u swyddogion,

7. “Peidiwch â rhoi gwellt mwyach i'r bobl i wneud priddfeini; gadewch iddynt fynd a chasglu gwellt iddynt eu hunain.

8. Ond gofalwch eu bod yn cynhyrchu'r un nifer o briddfeini â chynt, a pheidiwch â lleihau'r nifer iddynt. Y maent yn ddiog, a dyna pam y maent yn gweiddi am gael mynd i aberthu i'w Duw.

9. Gwnewch y gwaith yn drymach i'r bobl er mwyn iddynt ddal ati i weithio, a pheidiwch â gwrando ar eu celwydd.”

10. Aeth meistri gwaith a swyddogion y bobl allan a dweud wrthynt, “Fel hyn y dywed Pharo:

11. ‘Nid wyf am roi gwellt i chwi mwyach, ond rhaid i chwi eich hunain fynd i geisio gwellt ym mha le bynnag y gallwch ei gael; er hynny, ni fydd dim cwtogi ar eich cynnyrch.’ ”

12. Felly, bu raid i'r bobl grwydro trwy holl wlad yr Aifft a chasglu sofl yn lle gwellt.

13. Yr oedd y meistri gwaith yn pwyso arnynt gan ddweud, “Gorffennwch y gwaith ar gyfer pob dydd, yn union fel yr oeddech pan oedd gennych wellt.”

14. Cafodd y swyddogion a benodwyd gan feistri gwaith Pharo i oruchwylio'r Israeliaid eu curo a'u holi, “Pam na wnaethoch eich dogn o briddfeini heddiw fel cynt?”

15. Yna daeth swyddogion yr Israeliaid â'u cwyn at Pharo, a dweud, “Pam yr wyt yn trin dy weision fel hyn?

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 5