Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 4:8-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. “Os na fyddant yn dy gredu nac yn ymateb i'r arwydd cyntaf,” meddai'r ARGLWYDD, “hwyrach y byddant yn ymateb i'r ail arwydd.

9. Ond os na fyddant yn ymateb i'r naill arwydd na'r llall, nac yn gwrando arnat, cymer ddŵr o'r Neil a'i dywallt ar y sychdir, a bydd y dŵr a gymeri o'r afon Neil yn troi'n waed ar y tir sych.”

10. Dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, “O f'Arglwydd, ni fûm erioed yn ŵr huawdl, nac yn y gorffennol nac er pan ddechreuaist lefaru wrth dy was; y mae fy lleferydd yn araf a'm tafod yn drwm.”

11. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Pwy a roes enau i feidrolyn? Pwy a'i gwna yn fud neu'n fyddar? Pwy a rydd iddo olwg, neu ei wneud yn ddall? Onid myfi, yr ARGLWYDD?

12. Yn awr, dos, rhof help iti i lefaru, a'th ddysgu beth i'w ddweud.”

13. Ond dywedodd ef, “O f'Arglwydd, anfon pwy bynnag arall a fynni.”

14. Digiodd yr ARGLWYDD wrth Moses a dywedodd, “Onid Aaron y Lefiad yw dy frawd? Gwn y gall ef siarad yn huawdl; y mae ar ei ffordd i'th gyfarfod, a bydd yn falch o'th weld.

15. Llefara di wrtho a gosod y geiriau yn ei enau, a rhof finnau help i'r ddau ohonoch i lefaru, a'ch dysgu beth i'w wneud.

16. Bydd ef yn llefaru wrth y bobl ar dy ran; bydd ef fel genau iti, a byddi dithau fel Duw iddo yntau.

17. Cymer y wialen hon yn dy law, oherwydd trwyddi hi y byddi'n gwneud yr arwyddion.”

18. Dychwelodd Moses at Jethro ei dad-yng-nghyfraith a dweud wrtho, “Gad imi fynd yn ôl at fy mhobl sydd yn yr Aifft i weld a ydynt yn dal yn fyw.” Dywedodd Jethro wrtho, “Rhwydd hynt iti.”

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 4