Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 37:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Gwnaeth drugareddfa o aur pur, dau gufydd a hanner o hyd, a chufydd a hanner o led.

7. Gwnaeth hefyd ar gyfer y naill ben a'r llall i'r drugareddfa ddau gerwb o aur wedi ei guro,

8. a gosod un yn y naill ben a'r llall yn y pen arall, yn rhan o'r drugareddfa.

9. Yr oedd dwy adain y cerwbiaid ar led, fel eu bod yn gorchuddio'r drugareddfa; yr oedd y cerwbiaid yn wynebu ei gilydd, â'u hwynebau tua'r drugareddfa.

10. Gwnaeth fwrdd o goed acasia, dau gufydd o hyd, cufydd o led, a chufydd a hanner o uchder.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 37