4. Gwnaeth bolion o goed acasia a'u goreuro,
5. a'u gosod yn y dolennau ar ochrau'r arch, i'w chario.
6. Gwnaeth drugareddfa o aur pur, dau gufydd a hanner o hyd, a chufydd a hanner o led.
7. Gwnaeth hefyd ar gyfer y naill ben a'r llall i'r drugareddfa ddau gerwb o aur wedi ei guro,
8. a gosod un yn y naill ben a'r llall yn y pen arall, yn rhan o'r drugareddfa.
9. Yr oedd dwy adain y cerwbiaid ar led, fel eu bod yn gorchuddio'r drugareddfa; yr oedd y cerwbiaid yn wynebu ei gilydd, â'u hwynebau tua'r drugareddfa.
10. Gwnaeth fwrdd o goed acasia, dau gufydd o hyd, cufydd o led, a chufydd a hanner o uchder.
11. Goreurodd ef ag aur pur drosto, a gwnaeth ymyl aur o'i amgylch.
12. Gwnaeth ffrâm o led llaw o'i gwmpas, ac ymyl aur o amgylch y ffrâm.
13. Gwnaeth hefyd ar ei gyfer bedair o ddolennau aur, a'u clymu wrth y pedair coes yn y pedair congl.
14. Yr oedd y dolennau ar ymyl y ffrâm yn dal y polion oedd yn cludo'r bwrdd.
15. Gwnaeth y polion oedd yn cludo'r bwrdd o goed acasia, a'u goreuro.
16. Gwnaeth lestri a dysglau ar ei gyfer, a ffiolau a chostrelau i dywallt y diodoffrwm; fe'u gwnaeth o aur pur.