Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 37:23-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. Gwnaeth ar ei gyfer saith llusern, a gefeiliau a chafnau o aur pur.

24. Gwnaeth y canhwyllbren a'r holl lestri o un dalent o aur pur.

25. Gwnaeth allor o goed acasia ar gyfer llosgi'r arogldarth; yr oedd yn sgwâr, yn gufydd o hyd, a chufydd o led, a dau gufydd o uchder, a'i chyrn yn rhan ohoni.

26. Goreurodd hi i gyd ag aur pur, yr wyneb, yr ochrau a'r cyrn; a gwnaeth ymyl aur o'i hamgylch.

27. Gwnaeth hefyd ddau fach aur dan y cylch ar y ddwy ochr, i gymryd y polion ar gyfer cario'r allor.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 37