Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 37:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Gwnaeth Besalel arch o goed acasia, dau gufydd a hanner o hyd, cufydd a hanner o led, a chufydd a hanner o uchder.

2. Goreurodd hi ag aur pur oddi mewn ac oddi allan, a gwnaeth ymyl aur o'i hamgylch.

3. Lluniodd bedair dolen gron o aur ar gyfer ei phedair congl, dwy ar y naill ochr a dwy ar y llall.

4. Gwnaeth bolion o goed acasia a'u goreuro,

5. a'u gosod yn y dolennau ar ochrau'r arch, i'w chario.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 37