10. “Y mae pob crefftwr yn eich plith i ddod a gwneud y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD:
11. y tabernacl, ei babell a'i len, ei fachau a'i fframiau, ei farrau, ei golofnau a'i draed;
12. yr arch a'i pholion, y drugareddfa, y gorchudd;
13. y bwrdd a'i bolion a'i holl lestri, a'r bara gosod;
14. y canhwyllbren ar gyfer y goleuni, ei lestri a'i lampau, a'r olew ar gyfer y golau;
15. allor yr arogldarth a'i pholion, olew'r ennaint a'r arogldarth peraidd, gorchudd drws y tabernacl;
16. allor y poethoffrwm a'r rhwyll bres, ei pholion a'i holl lestri, y noe a'i throed;
17. llenni'r cyntedd, ei golofnau a'i draed, a gorchudd drws y cyntedd;
18. hoelion y tabernacl a'r cyntedd a'u rhaffau;
19. gwisgoedd wedi eu gwnïo'n gywrain ar gyfer gwasanaethau'r cysegr; gwisgoedd cysegredig i Aaron yr offeiriad ac i'w feibion, i wasanaethu fel offeiriaid.”
20. Yna aeth holl gynulliad pobl Israel ymaith oddi wrth Moses,
21. a daeth pob un yr oedd ei galon yn ei gyffroi, a'i ysbryd yn ei ennyn, ag offrwm i'r ARGLWYDD i'w ddefnyddio ym mhabell y cyfarfod ar gyfer ei holl wasanaeth, ac ar gyfer y gwisgoedd cysegredig.
22. Felly daethant, yn wŷr a gwragedd, a chynnig o'u gwirfodd freichledau, clustlysau, modrwyau, cadwynau a thlysau aur o bob math; yr oedd pawb yn cyflwyno aur yn offrwm i'r ARGLWYDD.
23. Yr oedd pob un a chanddo sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main, a blew geifr, a chrwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch, a chrwyn morfuchod, yn dod â hwy.