Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 43:21-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. sef y bobl a luniais i mi fy hun,iddynt fynegi fy nghlod.

22. “Jacob, ni elwaist arnaf fi,ond blinaist arnaf, Israel.

23. Ni ddygaist i mi ddafad yn boethoffrwm,na'm hanrhydeddu â'th ebyrth;ni roddais faich bwydoffrwm arnat,na'th flino am arogldarth.

24. Ni phrynaist i mi galamus ag arian,na'm llenwi â'th ebyrth breision;ond rhoddaist dy bechodau yn faich arnaf,blinaist fi â'th gamweddau.

25. “Myfi, myfi yw Duw,sy'n dileu dy droseddau er fy mwyn fy hun,heb alw i gof dy bechodau.

26. Cyhudda fi, dadleuwn â'n gilydd;gosod dy achos gerbron, iti gael dyfarniad.

27. Pechodd dy dad cyntaf,a chododd d'arweinwyr yn f'erbyn,

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 43