Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 43:16-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD,a agorodd ffordd yn y môra llwybr yn y dyfroedd enbyd;

17. a ddug allan gerbyd a march,byddin a dewrion,a hwythau'n gorwedd heb neb i'w codi,yn darfod ac yn diffodd fel llin:

18. “Peidiwch â meddwl am y pethau gynt,peidiwch ag aros gyda'r hen hanes.

19. Edrychwch, rwyf yn gwneud peth newydd;y mae'n tarddu yn awr; oni allwch ei adnabod?Yn wir, rwy'n gwneud ffordd yn yr anialwch,ac afonydd yn y diffeithwch.

20. Bydd anifeiliaid gwylltion yn fy mawrygu,y bleiddiaid a'r estrys,am imi roi dŵr yn yr anialwchac afonydd yn y diffeithwch,er mwyn rhoi dŵr i'm pobl, f'etholedig,

21. sef y bobl a luniais i mi fy hun,iddynt fynegi fy nghlod.

22. “Jacob, ni elwaist arnaf fi,ond blinaist arnaf, Israel.

23. Ni ddygaist i mi ddafad yn boethoffrwm,na'm hanrhydeddu â'th ebyrth;ni roddais faich bwydoffrwm arnat,na'th flino am arogldarth.

24. Ni phrynaist i mi galamus ag arian,na'm llenwi â'th ebyrth breision;ond rhoddaist dy bechodau yn faich arnaf,blinaist fi â'th gamweddau.

25. “Myfi, myfi yw Duw,sy'n dileu dy droseddau er fy mwyn fy hun,heb alw i gof dy bechodau.

26. Cyhudda fi, dadleuwn â'n gilydd;gosod dy achos gerbron, iti gael dyfarniad.

27. Pechodd dy dad cyntaf,a chododd d'arweinwyr yn f'erbyn,

28. a halogodd dy dywysogion fy nghysegr;felly rhoddais Jacob i'w ddinistrio,ac Israel yn waradwydd.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 43