1. Yn awr, dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDDa'th greodd, Jacob, ac a'th luniodd, Israel:“Paid ag ofni, oherwydd gwaredaf di;galwaf ar dy enw; eiddof fi ydwyt.
2. Pan fyddi'n mynd trwy'r dyfroedd, byddaf gyda thi;a thrwy'r afonydd, ni ruthrant drosot.Pan fyddi'n rhodio trwy'r tân, ni'th ddeifir,a thrwy'r fflamau, ni losgant di.
3. Oherwydd myfi, yr ARGLWYDD dy Dduw,Sanct Israel, yw dy Waredydd;rhof yr Aifft yn iawn trosot,Ethiopia a Seba yn gyfnewid amdanat.
4. Am dy fod yn werthfawr yn fy ngolwg,yn ogoneddus, a minnau'n dy garu,rhof eraill yn gyfnewid amdanat,a phobloedd am dy einioes.
5. Paid ag ofni; yr wyf fi gyda thi.Dygaf dy had o'r dwyrain,casglaf di o'r gorllewin;
6. gorchmynnaf i'r gogledd, ‘Rho’,ac i'r de, ‘Paid â dal yn ôl;tyrd â'm meibion o bell,a'm merched o eithafoedd byd—
7. pob un sydd â'm henw arno,ac a greais i'm gogoniant,ac a luniais, ac a wneuthum.’ ”
8. Dygwch allan y bobl sy'n ddall, er bod llygaid ganddynt,y rhai sy'n fyddar, er bod clustiau ganddynt.
9. Y mae'r holl bobl wedi eu casglu ynghyd,a'r bobloedd wedi eu cynnull.Pwy yn eu plith a fynega hyn,a chyhoeddi i ni y pethau gynt?Gadewch iddynt alw tystion i brofi'r achos,a gwrando, a dyfarnu ei fod yn wir.
10. “Chwi yw fy nhystion,” medd yr ARGLWYDD,“fy ngwas, a etholaiser mwyn ichwi gael gwybod, a chredu ynof,a deall mai myfi yw Duw.Nid oedd duw wedi ei greu o'm blaen,ac ni fydd yr un ar fy ôl.
11. Myfi, myfi yw'r ARGLWYDD;nid oes waredydd ond myfi.
12. Myfi a fu'n mynegi, yn achub ac yn cyhoeddi,pan nad oedd duw dieithr yn eich plith;ac yr ydych chwi'n dystion i mi,” medd yr ARGLWYDD,“mai myfi yw Duw.
13. O'r dydd hwn, myfi yw Duw;ni all neb waredu o'm llaw.Beth bynnag a wnaf, ni all neb ei ddadwneud.”
14. Dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD,eich Gwaredydd, Sanct Israel:“Er eich mwyn chwi byddaf yn anfon i Fabilon,ac yn dryllio'r barrau i gyd,a throi cân y Caldeaid yn wylofain.
15. Myfi, yr ARGLWYDD, yw eich Sanct;creawdwr Israel yw eich brenin.”