Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 42:22-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. ond ysbeiliwyd ac anrheithiwyd y bobl hyn;cawsant bawb eu dal mewn tyllau,a'u cuddio mewn celloedd,yn ysbail heb waredydd,yn anrhaith heb neb i ddweud, ‘Rho'n ôl.’

23. Pwy ohonoch a all wrando ar hyn,ac ystyried a gwrando i'r diwedd?

24. Pwy a wnaeth Jacob yn anrhaith,a rhoi Israel i'r ysbeilwyr?Onid yr ARGLWYDD, y pechasom yn ei erbyn?Nid oeddent am rodio yn ei ffyrddna gwrando ar ei gyfraith;

25. felly tywalltodd ei lid a'i ddicter arnynt,a chynddaredd y frwydr.Caeodd y fflam amdano,ond ni ddysgodd ei wers;llosgodd, ond nid ystyriodd.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 42