Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 38:4-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Yna daeth gair yr ARGLWYDD at Eseia a dweud,

5. “Dos, dywed wrth Heseceia, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw dy dad Dafydd: Clywais dy weddi a gwelais dy ddagrau; yn awr rwyf am ychwanegu pymtheng mlynedd at dy ddyddiau.

6. A gwaredaf di a'r ddinas hon o afael brenin Asyria, a byddaf yn gysgod dros y ddinas hon.

7. Dyma arwydd i ti oddi wrth yr ARGLWYDD, y bydd yr ARGLWYDD yn gwneud yr hyn a ddywedodd.

8. Edrych, yr wyf yn peri i'r cysgod deflir ar risiau Ahas gan yr haul fynd yn ei ôl ddeg o risiau.’ ” Ac aeth yr haul yn ei ôl ddeg o'r grisiau yr oedd eisoes wedi mynd i lawr drostynt.

9. Cerdd Heseceia brenin Jwda, pan fu'n glaf ac yna gwella o'i glefyd:

10. Dywedais, “Yn anterth fy nyddiau rhaid i mi fynd,a chael fy symud i byrth y bedd weddill fy mlynyddoedd”;

11. dywedais, “Ni chaf weld yr ARGLWYDDyn nhir y rhai byw,ac ni chaf edrych eto ar neb o drigolion y byd.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 38