Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 38:10-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Dywedais, “Yn anterth fy nyddiau rhaid i mi fynd,a chael fy symud i byrth y bedd weddill fy mlynyddoedd”;

11. dywedais, “Ni chaf weld yr ARGLWYDDyn nhir y rhai byw,ac ni chaf edrych eto ar neb o drigolion y byd.

12. Dygwyd fy nhrigfan oddi arnafa'i symud i ffwrdd fel pabell bugail;fel gwehydd rwy'n dirwyn fy nyddiau i ben,i'w torri ymaith o'r gwŷdd.O fore hyd nos rwyt yn fy narostwng.

13. O fel rwy'n dyheu am y bore!Maluriwyd fy esgyrn fel gan lew;o fore hyd nos rwyt yn fy narostwng.

14. Rwy'n trydar fel gwennol neu fronfraith,rwy'n cwynfan fel colomen.Blinodd fy llygaid ar edrych i fyny;O ARGLWYDD, pledia ar fy rhan a bydd yn feichiau drosof.”

15. Beth allaf fi ei ddweud?Llefarodd ef wrthyf ac fe'i gwnaeth.Ciliodd fy nghwsg i gyd,am ei bod mor chwerw arnaf.

16. ARGLWYDD, trwy'r pethau hyn y bydd rhywun fyw,ac yn yr holl bethau hyn y mae hoen fy ysbryd.Adfer fi, gwna i mi fyw.

17. Wele, er lles y bu'r holl chwerwder hwn i mi;yn dy gariad dygaist fi o bwll distryw,a thaflu fy holl bechodau y tu ôl i'th gefn.

18. Canys ni fydd y bedd yn diolch i ti,nac angau yn dy glodfori;ni all y rhai sydd wedi disgyn i'r pwllobeithio am dy ffyddlondeb.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 38