7. Edrych, rwy'n rhoi ysbryd ynddo, ac fe glyw si fydd yn peri iddo ddychwelyd i'w wlad; hefyd, gwnaf iddo syrthio gan y cleddyf yn y wlad honno.’ ”
8. Pan ddychwelodd y prif swyddog, cafodd ar ddeall fod brenin Asyria wedi gadael Lachis, a'i fod yn rhyfela yn erbyn Libna.
9. Ond pan ddeallodd fod Tirhaca brenin Ethiopia ar ei ffordd i ryfela yn ei erbyn, fe anfonodd genhadau eilwaith at Heseceia a dweud,
10. “Dywedwch wrth Heseceia brenin Jwda, ‘Paid â chymryd dy dwyllo gan dy Dduw, yr wyt yn ymddiried ynddo, ac sy'n dweud na roddir Jerwsalem i afael brenin Asyria.
11. Y mae'n siŵr dy fod wedi clywed am yr hyn a wnaeth brenhinoedd Asyria i'r holl wledydd, a'u bod wedi eu difrodi; a gei di dy arbed?
12. A waredodd duwiau'r cenhedloedd hwy—y cenhedloedd a ddinistriodd fy hynafiaid, fel Gosan a Haran a Reseff, a pobl Eden a drigai yn Telassar?
13. Ple mae brenhinoedd Hamath, Arpad, Lahir, Seffarfaim, Hena ac Ifa?’ ”
14. Cymerodd Heseceia'r neges gan y cenhadau a'i darllen. Yna aeth i fyny i dŷ'r ARGLWYDD, a'i hagor yng ngŵydd yr ARGLWYDD,
15. a gweddïo fel hyn:
16. “O ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, sydd wedi ei orseddu ar y cerwbiaid, ti yn unig sydd Dduw dros holl deyrnasoedd y byd; tydi a wnaeth y nefoedd a'r ddaear.
17. O ARGLWYDD, gogwydda dy glust a chlyw; O ARGLWYDD, agor dy lygaid a gwêl; gwrando'r neges a anfonodd Senacherib i watwar y Duw byw.
18. Y mae'n wir, O ARGLWYDD, fod brenhinoedd Asyria wedi difa'r holl genhedloedd a'r gwledydd,
19. a thaflu eu duwiau i'r tân; cawsant eu dinistrio am nad duwiau mohonynt, eithr gwaith dwylo dynol, o goed a charreg.
20. Yn awr, O ARGLWYDD ein Duw, gwared ni o'i afael ef, ac yna caiff holl deyrnasoedd y ddaear wybod mai ti yw'r ARGLWYDD, tydi yn unig.”