Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 37:1-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Pan glywodd y Brenin Heseceia yr hanes, rhwygodd yntau ei ddillad a rhoi sachliain amdano a mynd i dŷ'r ARGLWYDD,

2. ac anfon Eliacim arolygwr y palas, a Sebna yr ysgrifennydd, a'r rhai hynaf o'r offeiriaid, i gyd mewn sachliain, at y proffwyd Eseia fab Amos,

3. i ddweud wrtho, “Fel hyn y dywed Heseceia: ‘Y mae heddiw'n ddydd o gyfyngder a cherydd a gwarth; y mae fel pe bai plant ar fin cael eu geni, a'r fam heb nerth i esgor arnynt.

4. O na fyddai'r ARGLWYDD dy Dduw yn gwrando ar eiriau'r prif swyddog a anfonwyd gan ei feistr, brenin Asyria, i gablu'r Duw byw, a hefyd yn ei geryddu am y geiriau a glywodd yr ARGLWYDD dy Dduw! Dos i weddi dros y gweddill sydd ar ôl.’ ”

5. Pan ddaeth gweision y Brenin Heseceia at Eseia,

6. dywedodd Eseia wrthynt, “Dywedwch wrth eich meistr, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Paid ag ofni'r pethau a glywaist pan oedd llanciau brenin Asyria yn fy nghablu.

7. Edrych, rwy'n rhoi ysbryd ynddo, ac fe glyw si fydd yn peri iddo ddychwelyd i'w wlad; hefyd, gwnaf iddo syrthio gan y cleddyf yn y wlad honno.’ ”

8. Pan ddychwelodd y prif swyddog, cafodd ar ddeall fod brenin Asyria wedi gadael Lachis, a'i fod yn rhyfela yn erbyn Libna.

9. Ond pan ddeallodd fod Tirhaca brenin Ethiopia ar ei ffordd i ryfela yn ei erbyn, fe anfonodd genhadau eilwaith at Heseceia a dweud,

10. “Dywedwch wrth Heseceia brenin Jwda, ‘Paid â chymryd dy dwyllo gan dy Dduw, yr wyt yn ymddiried ynddo, ac sy'n dweud na roddir Jerwsalem i afael brenin Asyria.

11. Y mae'n siŵr dy fod wedi clywed am yr hyn a wnaeth brenhinoedd Asyria i'r holl wledydd, a'u bod wedi eu difrodi; a gei di dy arbed?

12. A waredodd duwiau'r cenhedloedd hwy—y cenhedloedd a ddinistriodd fy hynafiaid, fel Gosan a Haran a Reseff, a pobl Eden a drigai yn Telassar?

13. Ple mae brenhinoedd Hamath, Arpad, Lahir, Seffarfaim, Hena ac Ifa?’ ”

14. Cymerodd Heseceia'r neges gan y cenhadau a'i darllen. Yna aeth i fyny i dŷ'r ARGLWYDD, a'i hagor yng ngŵydd yr ARGLWYDD,

15. a gweddïo fel hyn:

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 37