Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 23:12-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. A dywedodd,“Ni chei ymffrostio ddim mwy,ti forwyn a orthrymwyd, ferch Sidon;cod, dos drosodd i Chittim,ond ni chei orffwys yno chwaith.”

13. Edrych ar wlad y Caldeaid. Y rhain—nid yr Asyriaid—yw'r bobl a bennodd Tyrus i'r anifeiliaid gwylltion. Hwy a gododd warchae, a dryllio'i phalasau, a'i thynnu i lawr yn adfeilion.

14. Udwch, chwi longau Tarsis,oherwydd anrheithiwyd eich amddiffynfa.

15. Yn yr amser hwnnw fe anghofir Tyrus am ddeng mlynedd a thrigain, sef hyd einioes un brenin; ac ymhen deng mlynedd a thrigain bydd cyflwr Tyrus fel y butain yn y gân:

16. “Cymer dy delyn, rhodianna trwy'r ddinas,di butain a anghofiwyd;tyn yn dyner ar y tannau,cân dy ganeuon yn aml,fel y cofir di drachefn.”

17. Ar ddiwedd y deng mlynedd a thrigain, bydd yr ARGLWYDD yn ymweld eto â Tyrus; fe â hithau'n ôl at ei masnach a'i llogi ei hun i bob teyrnas ar y ddaear.

18. Ond bydd ei helw a'i henillion wedi eu neilltuo i'r ARGLWYDD; ni chronnir hwy na'u cuddio, ond bydd ei masnach yn darparu llawnder o fwyd a gwisgoedd hardd i'r rhai sy'n byw yng ngŵydd yr ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 23