Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 23:1-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yr oracl am Tyrus:Udwch, longau Tarsis, oherwydd anrheithiwyd y porthladd;wrth groesi o dir Chittim fe welir hynny.

2. Wylwch, drigolion y glannau,masnachwyr Sidon, sy'n tramwyo'r môr,

3. a'th weision ar y dyfroedd mawrion;cnwd Sihor, cynhaeaf y Neil, oedd dy gyllid,a masnachwr y cenhedloedd oeddit ti.

4. Cywilydd arnat, Sidon, canys llefarodd y môr,caer y môr, a dweud,“Nid wyf mewn gwewyr nac yn esgor,nac yn magu llanciau nac yn meithrin morynion.”

5. Pan ddaw'r newydd i'r Aifft,gwingant wrth glywed am Tyrus.

6. Ewch drosodd i Tarsis;udwch, drigolion y glannau.

7. Ai hon yw eich dinas brysur,sydd â'i hanes mor hen,a'i theithio wedi mynd â hii ymsefydlu mor bell?

8. Pwy a gynlluniodd hyn yn erbyn Tyrus goronog,oedd â'i masnachwyr yn dywysogiona'i marchnatwyr yn fawrion y ddaear?

9. ARGLWYDD y Lluoedd a'i cynlluniodd,i ddifwyno pob gogoniant balch,i ddiraddio holl fawrion y ddaear.

10. Dos trwy dy dir, fel y gwna'r Neil, ferch Tarsis;nid oes atalfa mwyach.

11. Estynnodd yr ARGLWYDD ei law dros y môr,ysgydwodd deyrnasoedd;rhoes orchymyn ynghylch Canaan,i ddinistrio ei cheyrydd.

12. A dywedodd,“Ni chei ymffrostio ddim mwy,ti forwyn a orthrymwyd, ferch Sidon;cod, dos drosodd i Chittim,ond ni chei orffwys yno chwaith.”

13. Edrych ar wlad y Caldeaid. Y rhain—nid yr Asyriaid—yw'r bobl a bennodd Tyrus i'r anifeiliaid gwylltion. Hwy a gododd warchae, a dryllio'i phalasau, a'i thynnu i lawr yn adfeilion.

14. Udwch, chwi longau Tarsis,oherwydd anrheithiwyd eich amddiffynfa.

15. Yn yr amser hwnnw fe anghofir Tyrus am ddeng mlynedd a thrigain, sef hyd einioes un brenin; ac ymhen deng mlynedd a thrigain bydd cyflwr Tyrus fel y butain yn y gân:

16. “Cymer dy delyn, rhodianna trwy'r ddinas,di butain a anghofiwyd;tyn yn dyner ar y tannau,cân dy ganeuon yn aml,fel y cofir di drachefn.”

17. Ar ddiwedd y deng mlynedd a thrigain, bydd yr ARGLWYDD yn ymweld eto â Tyrus; fe â hithau'n ôl at ei masnach a'i llogi ei hun i bob teyrnas ar y ddaear.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 23