Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 15:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yr oracl am Moab:Y noson y dinistrir Ar, fe dderfydd am Moab;y noson y dinistrir Cir, fe dderfydd am Moab.

2. Dringa merch Dibon i'r uchelfa i wylo;dros Nebo a thros Medeba fe uda Moab.Bydd moelni ar bob pen, a phob barf wedi ei heillio;

3. gwisgir sachliain yn yr heolydd;ar bennau'r tai, ac yn sgwâr y dref,bydd pawb yn udo ac yn beichio wylo.

4. Bydd Hesbon ac Eleale yn llefain,a chlywir eu cri hyd Jahas;am hynny bydd lwynau Moab yn crynu,ac yntau yn ysgwyd drwyddo.

5. Y mae fy nghalon yn llefain dros Moab.Bydd ei ffoaduriaid yn mynd mor bell â Soar,hyd Eglath-shalisheia;dringant riw Luhith dan wylo,a thorri calon ar ffordd Horonaim.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 15