23. Canys bydd yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd,yn gwneud dinistr terfynolyng nghanol yr holl ddaear.
24. Am hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd: “Fy mhobl, sy'n preswylio yn Seion, paid ag ofni rhag yr Asyriaid, er iddynt dy guro â gwialen, a chodi eu ffon yn dy erbyn fel y gwnaeth yr Eifftiaid.
25. Canys ymhen ychydig bach fe dderfydd fy llid, a bydd fy nigofaint yn troi i'w difetha hwy.
26. A bydd ARGLWYDD y Lluoedd yn ysgwyd chwip yn eu herbyn, fel y gwnaeth yn lladdfa Midian wrth garreg Oreb, ac yn codi ei wialen dros y môr fel y cododd hi dros yr Aifft.”
27. Yn y dydd hwnnwsymudir ei faich oddi ar dy ysgwydd,a dryllio'i iau oddi ar dy war.Esgynnodd o Rimmon,
28. daeth at Aiath,tramwyodd drwy Migron,rhoddodd ei gelfi i'w cadw yn Michmas;
29. aethant dros Maabaraac aros dros nos yn Geba.Dychrynodd Rama, arswydodd Gibea Saul.
30. Bloeddia'n groch, Bath-galim;gwrando arni, Lais; ateb hi, Anathoth.
31. Y mae Madmena ar ffo,a phobl Gebim yn chwilio am nodded.
32. Heddiw y mae'n sefyll yn Nob,ac yn cau ei ddwrn yn erbyn mynydd merch Seion,bryn Jerwsalem.
33. Wele yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd,yn cymynu'r prennau yn frawychus;torrir ymaith y rhai talgryf,a chwympir y rhai uchel.
34. Tyr â bwyell lwyni'r goedwig,a syrth Lebanon a'i choed cadarn.