Eseia 10:24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)
Am hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd: “Fy mhobl, sy'n preswylio yn Seion, paid ag ofni rhag yr Asyriaid, er iddynt dy guro â gwialen, a chodi eu ffon yn dy erbyn fel y gwnaeth yr Eifftiaid.