Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 34:5-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Fe'u gwasgarwyd am eu bod heb fugail, ac yna aethant yn fwyd i'r holl anifeiliaid gwylltion.

6. Crwydrodd fy mhraidd dros yr holl fynyddoedd a bryniau uchel; aethant ar wasgar dros yr holl ddaear, ond nid oedd neb yn eu ceisio nac yn chwilio amdanynt.

7. “ ‘Felly, fugeiliaid, clywch air yr ARGLWYDD.

8. Cyn wired â'm bod yn fyw, medd yr Arglwydd DDUW, oherwydd i'r praidd fynd yn ysglyfaeth ac yn fwyd i'r holl anifeiliaid gwylltion, am nad oedd fugail, ac oherwydd i'm bugeiliaid beidio â chwilio am fy mhraidd ond gofalu amdanynt eu hunain yn hytrach nag am y praidd,

9. felly, fugeiliaid, clywch air yr ARGLWYDD.

10. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yr wyf yn erbyn y bugeiliaid, ac yn eu dal yn gyfrifol am fy mhraidd. Byddaf yn eu hatal rhag gofalu am y praidd, rhag i'r bugeiliaid mwyach ofalu amdanynt eu hunain. Gwaredaf fy mhraidd o'u genau, ac ni fyddant mwyach yn fwyd iddynt.

11. “ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Byddaf fi fy hunan yn chwilio am fy mhraidd ac yn gofalu amdanynt.

12. Fel y mae bugail yn gofalu am ei braidd gwasgaredig pan fydd yn eu mysg, felly y byddaf finnau'n gofalu am fy mhraidd; byddaf yn eu gwaredu o'r holl fannau lle gwasgarwyd hwy ar ddydd cymylau a thywyllwch.

13. Dygaf hwy allan o fysg y bobloedd, a'u casglu o'r gwledydd, a dod â hwy i'w gwlad eu hunain; bugeiliaf hwy ar fynyddoedd Israel, ger y nentydd ac yn holl fannau cyfannedd y wlad.

14. Gofalaf amdanynt mewn porfa dda, a bydd uchelfannau mynyddoedd Israel yn dir pori iddynt; yno byddant yn gorwedd ar dir pori da ac yn ymborthi ar borfa fras ar fynyddoedd Israel.

15. Byddaf fi fy hun yn bugeilio fy nefaid ac yn gwneud iddynt orwedd, medd yr Arglwydd DDUW.

16. Byddaf yn ceisio'r ddafad golledig ac yn dychwelyd y wasgaredig; byddaf yn rhwymo'r ddolurus ac yn cryfhau'r wan. Ond byddaf yn difa'r fras a'r gref; byddaf yn eu bugeilio â chyfiawnder.

17. “ ‘Amdanoch chwi, fy mhraidd, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Wele, byddaf fi'n barnu rhwng y naill ddafad a'r llall, a rhwng hyrddod a bychod.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 34