Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yr wyf yn erbyn y bugeiliaid, ac yn eu dal yn gyfrifol am fy mhraidd. Byddaf yn eu hatal rhag gofalu am y praidd, rhag i'r bugeiliaid mwyach ofalu amdanynt eu hunain. Gwaredaf fy mhraidd o'u genau, ac ni fyddant mwyach yn fwyd iddynt.