Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 21:4-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Oherwydd fy mod am dorri ymaith ohonot y cyfiawn a'r drygionus y tynnir fy nghleddyf o'i wain yn erbyn pawb o'r de i'r gogledd.

5. Yna bydd pob un yn gwybod fy mod i, yr ARGLWYDD, wedi tynnu fy nghleddyf o'i wain; ni fydd yn dychwelyd yno byth eto.’

6. Ac yn awr, fab dyn, griddfan; griddfan yn chwerw o'u blaenau â chalon ddrylliedig.

7. A phan ofynnant iti pam dy fod yn griddfan, fe ddywedi, ‘Oherwydd y newyddion; pan ddaw, bydd pob calon yn toddi, pob llaw yn llipa, pob ysbryd yn pallu a phob glin yn ddŵr. Fe ddigwydd, ac y mae ar ddyfod, medd yr Arglwydd DDUW.’ ”

8. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

9. “Fab dyn, proffwyda a dweud, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:Cleddyf! Cleddyf wedi ei hogi,a hefyd wedi ei loywi—

10. wedi ei hogi er mwyn lladd,a'i loywi i fflachio fel mellten!O fy mab, fe chwifir gwialeni ddilorni pob eilun pren!

11. Rhoddwyd y cleddyf i'w loywi,yn barod i law ymaflyd ynddo;y mae'r cleddyf wedi ei hogi a'i loywi,yn barod i'w roi yn llaw y lladdwr.’

12. Gwaedda ac uda, fab dyn,oherwydd y mae yn erbyn fy mhobl,yn erbyn holl dywysogion Israel—fe'u bwrir hwythau i'r cleddyf gyda'm pobl;felly trawa dy glun.

13. Oherwydd bydd profi. Pam yr ydych yn dilorni'r wialen? Ni lwydda, medd yr Arglwydd DDUW.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 21