Eseciel 21:7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)
A phan ofynnant iti pam dy fod yn griddfan, fe ddywedi, ‘Oherwydd y newyddion; pan ddaw, bydd pob calon yn toddi, pob llaw yn llipa, pob ysbryd yn pallu a phob glin yn ddŵr. Fe ddigwydd, ac y mae ar ddyfod, medd yr Arglwydd DDUW.’ ”