Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 9:4-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Paid ag oedi yng nghwmni dawnsferch,rhag iti gael dy ddal gan ei hystrywiau hi.

5. Paid â chraffu ar wyryf,rhag iti gael dy rwydo a gorfod talu iawn amdani.

6. Paid â'th roi dy hun i buteiniaid,rhag iti golli dy etifeddiaeth.

7. Paid ag edrych o'th gwmpas yn heolydd y ddinas,nac ymdroi yn ei lleoedd anial.

8. Tro dy lygad oddi wrth wraig brydweddol,a phaid â chraffu ar brydferthwch gwraig dyn arall;o achos prydferthwch gwraig aeth llawer ar gyfeiliorn,a thrwyddo cyneuir serch fel tân.

9. Paid byth â chydeistedd â gwraig briod,nac ymuno â hi mewn gloddest a gwin,rhag iti osod dy fryd arni,a llithro ohonot i ddinistr llwyr.

10. Paid â chefnu ar hen gyfaill,oherwydd nid yw un newydd cystal ag ef;y mae cyfaill newydd fel gwin newydd;wedi iddo heneiddio y cei fwynhad o'i yfed.

11. Paid â chenfigennu wrth bechadur yn ei lwyddiant,oherwydd ni wyddost beth fydd ei dynged ef.

12. Paid ag ymbleseru ym mhleserau yr annuwiol;cofia fod eu cosb yn sicr hyd at fedd.

13. Cadw'n ddigon pell oddi wrth un a chanddo awdurdod i ladd;yna ni ddaw ofn marwolaeth i darfu arnat.Ond os doi di ato, paid â chymryd cam gwag,rhag iddo gymryd dy einioes oddi wrthyt.Ystyria dy fod yn rhodio yng nghanol maglauac yn cerdded ar dyrau uchaf y ddinas.

14. Hyd y gelli, amcana adnabod dy gymdogion,ac ymgynghora â doethion.

15. Bydded dy ymddiddan â'r deallus,a'th ymadrodd bob amser am gyfraith y Goruchaf.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 9