Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 9:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Paid â bod yn eiddigeddus wrth wraig dy fynwes,na'i hyfforddi i ymarfer drwg er niwed i ti dy hun.

2. Paid â'th roi dy hun i ferch,a gadael iddi ymosod ar dy gryfder di.

3. Paid â mynd i gyfarfod merch lac ei moesau,rhag iti syrthio i'w maglau hi.

4. Paid ag oedi yng nghwmni dawnsferch,rhag iti gael dy ddal gan ei hystrywiau hi.

5. Paid â chraffu ar wyryf,rhag iti gael dy rwydo a gorfod talu iawn amdani.

6. Paid â'th roi dy hun i buteiniaid,rhag iti golli dy etifeddiaeth.

7. Paid ag edrych o'th gwmpas yn heolydd y ddinas,nac ymdroi yn ei lleoedd anial.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 9