5. o ddyfnder crombil Trigfan y Meirw,a rhag tafod aflan a'i eiriau celwyddog—
6. y tafod anghyfiawn a'm henllibiodd wrth y brenin.Deuthum innau'n agos i farwolaeth,a disgynnais bron hyd at Drigfan y Meirw.
7. Yr oeddent yn f'amgylchu ar bob tu, ac nid oedd neb i'm helpu;yr oeddwn yn chwilio am gymorth gan eraill, ond nid oedd neb ar gael.
8. Yna cofiais am dy drugaredd di, Arglwydd,ac am dy weithredoedd o'r dechrau cyntaf:dy fod yn gwaredu'r rhai sy'n dal i ddisgwyl wrthyt,ac yn eu hachub o law eu gelynion.
9. Dyrchefais f'erfyniad o'r ddaear,a gweddïais am gael fy arbed rhag marw.
10. Gelwais ar yr Arglwydd, tad fy arglwydd,i beidio â chefnu arnaf mewn dyddiau o gyfyngder,a minnau'n ddiymgeledd yn amser traha.Moliannaf dy enw yn ddi-baid,a chanaf emynau mewn diolchgarwch.
11. Gwrandawyd fy ngweddi,oherwydd achubaist fi rhag marwolaetha'm gwaredu o'r amser drwg.