Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 51:3-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. yn unol â mawredd dy drugaredd a'th enw,rhag ysgyrnygu'r dannedd oedd yn barod i'm bwyta,ac o law'r rhai oedd yn ceisio fy mywyd.

4. Gwaredaist fi o'r blinderau lawer a ddioddefais,o fwg taglyd y fflamau a'm hamgylchynai,o ganol y tân nad oeddwn wedi ei gynnau,

5. o ddyfnder crombil Trigfan y Meirw,a rhag tafod aflan a'i eiriau celwyddog—

6. y tafod anghyfiawn a'm henllibiodd wrth y brenin.Deuthum innau'n agos i farwolaeth,a disgynnais bron hyd at Drigfan y Meirw.

7. Yr oeddent yn f'amgylchu ar bob tu, ac nid oedd neb i'm helpu;yr oeddwn yn chwilio am gymorth gan eraill, ond nid oedd neb ar gael.

8. Yna cofiais am dy drugaredd di, Arglwydd,ac am dy weithredoedd o'r dechrau cyntaf:dy fod yn gwaredu'r rhai sy'n dal i ddisgwyl wrthyt,ac yn eu hachub o law eu gelynion.

9. Dyrchefais f'erfyniad o'r ddaear,a gweddïais am gael fy arbed rhag marw.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 51