Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 51:26-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. Plygwch eich gwar dan yr iau,a derbyniwch addysg;y mae hi wrth law ac yn hawdd ei chael.

27. Gwelwch â'ch llygaid gyn lleied y llafuriaisi ennill imi orffwystra mor fawr.

28. Gwariwch arian mawr ar gael addysg,a mawr fydd yr aur a gewch drwyddi.

29. Llawenhewch yn nhrugaredd yr Arglwydd,ac na fydded cywilydd arnoch ei foliannu ef.

30. Cyflawnwch eich gwaith mewn pryd,ac yn ei amser ei hun rhydd Duw ichwi eich gwobr.”

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 51