Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 51:21-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Cynhyrfwyd ynof chwant i'w cheisio,ac am hynny enillais feddiant ar drysor da.

22. Rhoes yr Arglwydd imi dafod yn wobr,ac â hwnnw fe'i moliannaf ef.

23. Nesewch ataf, chwi'r rhai diaddysg,a cheisiwch le yn fy ysgol i.

24. Pam yr addefwch eich bod yn brin o'r pethau hyn,a chwithau'n sychedu gymaint amdanynt?

25. Agorais fy ngenau a llefaru:“Prynwch i chwi eich hunain heb arian.

26. Plygwch eich gwar dan yr iau,a derbyniwch addysg;y mae hi wrth law ac yn hawdd ei chael.

27. Gwelwch â'ch llygaid gyn lleied y llafuriaisi ennill imi orffwystra mor fawr.

28. Gwariwch arian mawr ar gael addysg,a mawr fydd yr aur a gewch drwyddi.

29. Llawenhewch yn nhrugaredd yr Arglwydd,ac na fydded cywilydd arnoch ei foliannu ef.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 51