12. Am hynny diolchaf iti a'th foliannu,a bendithiaf dy enw, O Arglwydd.
13. Pan oeddwn eto'n ifanc, cyn cychwyn ar fy nheithiau,ar goedd yn fy ngweddi gwneuthum gais am ddoethineb.
14. Yng nghyntedd y cysegr fe'i hawliais imi,a daliaf i'w cheisio hyd y diwedd.
15. O'i blodau cyntaf hyd y grawnwin aeddfed,ynddi hi yr ymhyfrydodd fy nghalon.Cedwais fy nhroed ar lwybr unionwrth imi ei chanlyn o'm hieuenctid.
16. Ar y gwrandawiad cyntaf, fe'i cefais,ac ennill i mi fy hun lawer o addysg;
17. cynnydd fu fy rhan trwyddi hi.I'r hwn a roes imi ddoethineb y rhof ogoniant.
18. Oherwydd penderfynais gyflawni ei gofynion,a bûm yn llawn sêl dros y da; felly ni chywilyddir mohonof.
19. Yr wyf fi wedi brwydro amdani hi,gan fod yn fanwl gywir wrth gadw'r gyfraith.Estynnais fy nwylo i fyny tua'r nef,gan alaru oblegid fy anwybodaeth ohoni.
20. Cyfeiriais fy mywyd tuag ati,ac ar gyfrif fy nglanhad, fe'i cefais;cydiais fy nghalon wrthi hi o'r cychwyn,ac am hynny ni'm gadewir yn amddifad byth.