Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 51:11-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Gwrandawyd fy ngweddi,oherwydd achubaist fi rhag marwolaetha'm gwaredu o'r amser drwg.

12. Am hynny diolchaf iti a'th foliannu,a bendithiaf dy enw, O Arglwydd.

13. Pan oeddwn eto'n ifanc, cyn cychwyn ar fy nheithiau,ar goedd yn fy ngweddi gwneuthum gais am ddoethineb.

14. Yng nghyntedd y cysegr fe'i hawliais imi,a daliaf i'w cheisio hyd y diwedd.

15. O'i blodau cyntaf hyd y grawnwin aeddfed,ynddi hi yr ymhyfrydodd fy nghalon.Cedwais fy nhroed ar lwybr unionwrth imi ei chanlyn o'm hieuenctid.

16. Ar y gwrandawiad cyntaf, fe'i cefais,ac ennill i mi fy hun lawer o addysg;

17. cynnydd fu fy rhan trwyddi hi.I'r hwn a roes imi ddoethineb y rhof ogoniant.

18. Oherwydd penderfynais gyflawni ei gofynion,a bûm yn llawn sêl dros y da; felly ni chywilyddir mohonof.

19. Yr wyf fi wedi brwydro amdani hi,gan fod yn fanwl gywir wrth gadw'r gyfraith.Estynnais fy nwylo i fyny tua'r nef,gan alaru oblegid fy anwybodaeth ohoni.

20. Cyfeiriais fy mywyd tuag ati,ac ar gyfrif fy nglanhad, fe'i cefais;cydiais fy nghalon wrthi hi o'r cychwyn,ac am hynny ni'm gadewir yn amddifad byth.

21. Cynhyrfwyd ynof chwant i'w cheisio,ac am hynny enillais feddiant ar drysor da.

22. Rhoes yr Arglwydd imi dafod yn wobr,ac â hwnnw fe'i moliannaf ef.

23. Nesewch ataf, chwi'r rhai diaddysg,a cheisiwch le yn fy ysgol i.

24. Pam yr addefwch eich bod yn brin o'r pethau hyn,a chwithau'n sychedu gymaint amdanynt?

25. Agorais fy ngenau a llefaru:“Prynwch i chwi eich hunain heb arian.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 51