Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 51:11-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Gwrandawyd fy ngweddi,oherwydd achubaist fi rhag marwolaetha'm gwaredu o'r amser drwg.

12. Am hynny diolchaf iti a'th foliannu,a bendithiaf dy enw, O Arglwydd.

13. Pan oeddwn eto'n ifanc, cyn cychwyn ar fy nheithiau,ar goedd yn fy ngweddi gwneuthum gais am ddoethineb.

14. Yng nghyntedd y cysegr fe'i hawliais imi,a daliaf i'w cheisio hyd y diwedd.

15. O'i blodau cyntaf hyd y grawnwin aeddfed,ynddi hi yr ymhyfrydodd fy nghalon.Cedwais fy nhroed ar lwybr unionwrth imi ei chanlyn o'm hieuenctid.

16. Ar y gwrandawiad cyntaf, fe'i cefais,ac ennill i mi fy hun lawer o addysg;

17. cynnydd fu fy rhan trwyddi hi.I'r hwn a roes imi ddoethineb y rhof ogoniant.

18. Oherwydd penderfynais gyflawni ei gofynion,a bûm yn llawn sêl dros y da; felly ni chywilyddir mohonof.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 51