Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 51:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Diolchaf i ti, fy Arglwydd a'm Brenin,a moliannaf di, O Dduw, fy Ngwaredwr;diolchaf i'th enw di.

2. Oherwydd buost yn amddiffynnydd ac yn gynorthwywr imi,a gwaredaist fy nghorff rhag distryw,rhag y fagl a osododd tafod enllibus,a rhag y gwefusau sy'n taenu celwydd;yng ngŵydd fy ngwrthwynebwyrbuost yn gynorthwywr imi; gwaredaist fi,

3. yn unol â mawredd dy drugaredd a'th enw,rhag ysgyrnygu'r dannedd oedd yn barod i'm bwyta,ac o law'r rhai oedd yn ceisio fy mywyd.

4. Gwaredaist fi o'r blinderau lawer a ddioddefais,o fwg taglyd y fflamau a'm hamgylchynai,o ganol y tân nad oeddwn wedi ei gynnau,

5. o ddyfnder crombil Trigfan y Meirw,a rhag tafod aflan a'i eiriau celwyddog—

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 51