Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 5:6-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. A phaid â dweud, “Mawr yw ei dosturi ef;fe faddeua fy aml bechodau.”Oherwydd gydag ef y mae trugaredd, a digofaint hefyd,ac ar bechaduriaid y gorffwys ei lid ef.

7. Paid ag oedi cyn troi at yr Arglwydd, na gohirio o ddydd i ddydd,oherwydd yn ddisymwth y daw digofaint yr Arglwydd,ac yn nydd ei ddial ef i ddistryw yr ei.

8. Paid â rhoi dy fryd ar gyfoeth anonest,oherwydd ni chei ddim budd ohono pan ddaw aflwydd arnat.

9. Paid â throi i nithio gyda phob gwynt, na chanlyn pob llwybr;ffordd y pechadur dauwynebog yw hynny.

10. Bydd yn gadarn dy argyhoeddiadac yn gyson dy air.

11. Bydd yn gyflym i wrandoond yn bwyllog i roi dy ateb.

12. Ateb dy gymydog os yw'r deall gennyt;onid e, bydded dy law ar dy geg.

13. Yn lleferydd rhywun y mae ei fri a'i warth,ac yn ei dafod y mae achos cwymp iddo.

14. Paid ag ennill enw fel clepgi,na chynllwynio â'th dafod,oherwydd rhan y lleidr fydd cywilydd,a barnedigaeth lem fydd i'r dauwynebog.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 5