Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 5:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Paid â rhoi dy fryd ar dy gyfoeth,na dweud, “Yr wyf ar ben fy nigon.”

2. Paid â dilyn trywydd dy ewyllys a'th gryfder dy hun,gan rodio yn ôl chwantau dy galon dy hun.

3. Paid â dweud, “Pwy gaiff fod yn feistr arnaf fi?”Oherwydd y mae'r Arglwydd yn siŵr o'th alw i gyfrif.

4. Paid â dweud, “Pechais, a beth a ddigwyddodd imi?”Oherwydd hirymarhous yw'r Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 5