Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 45:8-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Gwisgodd ef ag ysblander cyflawn,a'i gadarnhau ag arwyddion awdurdod—y llodrau, y fantell laes a'r grysbas.

9. Gwregysodd ef â phomgranadau,a'i amgylchu ag amlder o glychau auri ganu a seinio gyda phob cam o'i eiddo,nes bod eu sŵn i'w glywed yn y cysegr,yn alwad i'r bobl i'w gofio.

10. Rhoes iddo wisg sanctaidd o aur a sidan glasa phorffor, o waith brodiwr;dwyfronneg barn, ynghyd â'r Wrim a'r Twmim;y bleth o ysgarlad, o waith crefftwr;

11. y meini gwerthfawr, wedi eu hysgythru fel seliaua'u gosod mewn aur, o waith gemydd,yn dwyn arysgrifen gerfiedig yn goffadwriaeth,a'u rhif yn ôl llwythau Israel;

12. y goron aur ar ei benwisg,wedi ei hysgythru, fel sêl, â'r gair “Sancteiddrwydd”,yn anrhydedd i ymfalchïo ynddo, yn waith godidog,yn addurn i foddhau holl ddymuniant y llygaid.

13. Cyn ei amser ef, ni bu erioed y fath addurniadau gwych;ac nis gwisgwyd erioed gan neb nad oedd o'i deulu,neb ond ei feibion ef yn unig,a'i ddisgynyddion ym mhob cyfnod.

14. Llwyr losgir ei holl offrymau efddwywaith bob dydd yn wastadol.

15. Moses a'i cysegrodd ef,a'i eneinio ag olew sanctaidd;daeth hyn yn gyfamod tragwyddol iddo ef,ac i'w ddisgynyddion holl ddyddiau'r nef:ei fod i weinidogaethu i'r Arglwydd a gwasanaethu fel offeiriad,a bendithio'i bobl yn ei enw ef.

16. Dewisodd ef o blith pawb bywi offrymu aberth i'r Arglwydd,arogldarth peraidd yn goffadwriaeth,ac yn foddion puredigaeth pechodau dy bobl.

17. Rhoes iddo ef, gyda'i orchmynion,awdurdod i ddyfarnu ar amodau'r cyfamod,i ddysgu i Jacob ei ddatganiadauac i oleuo Israel yn ei gyfraith.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 45