Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 45:23-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. Phineas fab Eleasar yw'r trydydd mewn bri,am ei sêl yn ofni'r Arglwydd,ac am iddo sefyll yn gadarn pan wrthryfelodd y bobl,yn hael ac eiddgar ei ysbryd,gan sicrhau puredigaeth pechodau i Israel.

24. Am hynny sefydlwyd cyfamod hedd ag ef,i'w osod yn ben ar y cysegr ac ar ei bobl,fel mai'r eiddo ef a'i ddisgynyddionfyddai braint yr offeiriadaeth yn oes oesoedd.

25. Fel y bu yn y cyfamod a wnaed â Dafydd,mab Jesse o lwyth Jwda,fod etifeddiaeth y brenin i fynd o fab i fab yn unig,felly hefyd yr oedd etifeddiaeth Aaron i fynd i'w ddisgynyddion ef.

26. Rhodded yr Arglwydd ichwi ddoethineb yn eich meddwli farnu ei bobl mewn cyfiawnder,fel na bydd i rinweddau eich cyndadau ddiflannu,ac y cedwir eu gogoniant i genedlaethau o'u plant.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 45