Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 45:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. O hil Jacob cododd Duw ŵr teyrngar iddo,a gafodd ffafr yng ngolwg pobun,a'i garu gan Dduw a phobl;Moses oedd ef, o fendigedig goffadwriaeth.

2. Lluniodd Duw ef yn un mewn gogoniant â'r angylion sanctaidd,a pheri i'w elynion ei ofni'n ddirfawr.

3. Trwy ei air ef rhoes Duw derfyn ar yr arwyddion;a rhoes iddo anrhydedd yng ngŵydd brenhinoedd.Rhoes iddo orchmynion ar gyfer ei bobl,a dangos iddo rywbeth o'i ogoniant ei hun.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 45