Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 40:22-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Tegwch a phrydferthwch sydd wrth fodd y llygad,ond gwell na'r ddau yw egin glas yr ŷd.

23. Hyfryd yw taro ar gâr a chyfaill,ond gwell na'r ddau yw bod yn ŵr a gwraig.

24. Hyfryd yn amser cyfyngder yw cael teulu a chefnogaeth,ond gwell na'r ddau i achub yw elusengarwch.

25. Rhydd aur ac arian droedle sefydlog i rywun,ond gwell na'r ddau mewn bri yw cyngor buddiol.

26. Y mae cyfoeth a nerth yn codi calon rhywun,ond gwell na'r ddau yw ofn yr Arglwydd.Ni bydd neb ar ei golled o ofni'r Arglwydd,ac ni bydd rhaid iddo chwilio am gymorth arall.

27. Y mae ofn yr Arglwydd yn baradwys o fendithion,ac yn cysgodi rhywun yn well na phob gogoniant bydol.

28. Fy mab, paid â threulio dy oes yn byw ar gardod;gwell marw na chardota.

29. Y sawl sydd â'i lygad ar fwrdd rhywun arall,treulio'i oes y mae, nid byw;y mae'n ei lygru ei hun â bwyd rhywun arall,ond bydd rhywun o ddysg a disgyblaeth yn ochelgar rhag hynny.

30. Gall cardota fod yn felys ar wefusau'r digywilydd,ond yn ei fol y mae'n dân yn llosgi.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 40