Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 37:6-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Paid ag anghofio cyfaill a frwydrodd drosot,na'i ollwng dros gof pan ddoi'n gyfoethog.

7. Y mae pob cynghorwr yn canmol ei gyngor,ond ceir hefyd gynghorwr nad yw'n cynghori ond er ei fudd ei hun.

8. Bydd ar dy wyliadwriaeth rhag y dyn sy'n cynnig cyngor,a myn wybod yn gyntaf beth fydd ei fantais ef—oherwydd yn ddiau bydd yn cynghori er budd iddo'i hun—rhag iddo beri i'r coelbren syrthio yn dy erbyn.

9. Gall ddweud wrthyt, “Mae'r ffordd yn glir iti”,ac yna sefyll o'r neilltu i weld beth a ddaw ohonot.

10. Paid ag ymgynghori â neb sy'n dy amau,a chuddia dy fwriad rhag y sawl sy'n eiddigeddus ohonot.

11. Paid ag ymgynghori â gwraig ynglŷn â'i chystadleuydd,nac â llwfrgi ynglŷn â rhyfel,nac â masnachwr ynglŷn â'i brisiau,nac â phrynwr ynglŷn â gwerthu,nac â'r crintachlyd ynglŷn â diolchgarwch,nac â'r angharedig ynglŷn â chymwynasgarwch,nac â diogyn ynglŷn â gwaith o unrhyw fath,nac â gwas a gyflogir wrth yr awr am orffen y gwaith,nac â gwas diog ynglŷn ag unrhyw orchwyl mawr;paid â gwrando ar gyngor y rhain ar unrhyw fater.

12. Ond yn hytrach bydd ddyfal yn ceisio cyngor y duwioly gwyddost ei fod yn cadw'r gorchmynion,un sydd o'r un anian â thydi dy hun.Cei gydymdeimlad hwnnw os digwydd iti faglu.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 37