Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 37:27-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. Fy mab, profa dy hun yn ystod dy fywyd,a gwêl beth sy'n ddrwg iti, a phaid ag ymroi iddo.

28. Oherwydd nid yw pob peth yn fuddiol i bawb,ac nid yw pawb yn cael pleser ym mhob peth.

29. Paid â bod yn lwth am bob rhyw ddanteithion,a phaid â rhoi ei ffordd i'th flys am fwydydd.

30. Oherwydd daw afiechyd o orfwyta,a chyfog o lythineb.

31. Bu llawer farw o lythineb;ond y mae'r sawl sy'n gwylio rhagddo'n estyn hyd ei einioes.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 37